Enghraifft o: | non-positive integer, cyfanrif, eilrif, non-negative integer, 0 number class, automorphic number, rhif Fibonacci, additive identity, rhif naturiol |
---|---|
Y gwrthwyneb | 0, Anfeidredd |
Rhan o | singleton of 0 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhif a symbol sy'n dynodi absenoldeb swm yw 0 (dim neu sero). Yn y system ddegol, 0 yw'r prifolyn rhwng -1 ac 1 sy'n dynodi'r pwynt trawsnewid rhwng gwerthoedd positif a negatif.[1]
Mae gan sero briodweddau arbennig parthed y pedair proses rifyddol sylfaenol. Ni cheir newid i rif os câi 0 ei adio iddo neu ei dynnu oddi arno. Os lluosir rhif â 0, 0 yw'r ateb. Os rhennir 0 gan unrhyw rif, ac eithrio 0, 0 yw'r ateb. Ni diffinnir rhaniad gan 0.
Nid oedd gan yr hen Roegiaid na'r Rhufeiniaid gysyniad sero yn eu dulliau mathemateg. Tarddodd yr unigrif 0 mewn nodiant pwynt degol yn yr hen India, a chafodd ei ledaenu i'r Arabiaid ac yna'r Ewropeaid yn ystod yr Oesoedd Canol. Defnyddid symbolau tebyg gan y Maya a'r Babiloniaid i ddynodi gwerth sero.