2020

20g - 21g - 22g
1970au 1980au 1990au 2000au 2010au - 2020au - 2030au 2040au 2050au 2060au 2070au
2015 2016 2017 2018 2019 - 2020 - 2021 2022 2023 2024 2025


COVID-19

Blwyddyn naid, gyda COVID-19 yn ymledu drwy Gymru a'r byd: ei effaith ar yr economi ac ar gymdeithas yn fawr. Erbyn diwedd Medi roedd nifer y marwolaethau o COVID-19 yn 1,000,000.

Llawer o brotestiadau gwrth-hiliaeth yn dilyn lladd George Floyd yn Yr Unol Daleithiau. Yr UDA hefyd yn ethol Arlywydd newydd a Llywodraeth y DU yn cwblhau y cyfnod pontio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Y dirwasgiad economaidd mwyaf ers y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au. Galwodd Geospatial World 2020 fel “y flwyddyn waethaf o ran newid hinsawdd” yn rhannol oherwydd trychinebau enfawr ledled y byd, gan gynnwys tanau gwyllt mawr yn Awstralia a gorllewin Unol Daleithiau'r America. Nododd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2020 na chyflawnwyd yr un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy rhyngwladol ar gyfer 2020.[1]

Datganiad i'r Wasg dyddiol gam Lywodraeth Cymru.
  1. "2020 Report: Progress towards the Sustainable Development Goals | Knowledge for policy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mawrth 2021. Cyrchwyd 7 Mawrth 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne