2022

20g - 21g - 22g
1970au 1980au 1990au 2000au 2010au - 2020au - 2030au 2040au 2050au 2060au 2070au
2017 2018 2019 2020 2021 - 2022 - 2023 2024 2025 2026 2027


Ymosodiad Rwsia ar Wcráin

2022 yw trydedd flwyddyn Pandemig COVID-19, gyda'r amrywiad Omicron yn lledaenu'n gyflym. Cyrhaeddodd poblogaeth y byd wyth biliwn o bobl yn 2022. Roedd y flwyddyn hefyd yn dyst i nifer o drychinebau naturiol, gan gynnwys dau gorwynt dinistriol ar yr Iwerydd (Fiona ac Ian), a ffrwydrad llosgfynydd mwyaf pwerus y ganrif hyd yn hyn. Yn ystod rhan olaf y flwyddyn hefyd gwelwyd rhyddhau fersiwn cyhoeddus cyntaf ChatGPT gan OpenAI yn cychwyn cystadleuaeth rhwng cwmniau enfawr i greu meddalwedd deallusrwydd artiffisial.

Cynyddodd gwrthdaro mewnol ym Myanmar a Rhyfel Tigray, a phob un o'r ddau yma'n achosi dros 10,000 o farwolaethau. Roedd 2022 yn bennaf nodedig am ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin, y gwrthdaro arfog mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne