![]() | |
Enghraifft o: | Memyn, answer, winged words ![]() |
---|---|
Crëwr | Douglas Adams ![]() |
Rhan o | phrases from "The Hitchhiker's Guide to the Galaxy" ![]() |
![]() |
42 yw'r Ateb Terfynol i Gwestiwn Bywyd, y Bydysawd, a Phopeth yn ôl llyfrau The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Cafodd ei chyfrifiannu gan Deep Thought, y cyfrifiadur ail fwyaf erioed[1]. Mae disgynyddion creawdwyr Deep Thought yn cael eu siomi gan natur rhifol yr ateb, dim yn deall beth i'w wneud gyda'r ateb na beth i'w ddweud wrth y bobl oedd wedi comisiynu'r prosiect a barodd am 7.5 miliwn blwyddyn.[2]
O gael ei ofyn i gynhyrchu'r cwestiwn terfynol i fynd gyda'r ateb "42", mae Deep Thought yn cyfaddef nad yw'n gallu cyfrifiannu hynny ei hun, ond y gall helpu i ddylunio cyfrifiadur sydd hyd yn oed yn fwy pwerus, gyda'r gallu i greu'r cwestiwn. Bydd y cyfrifiadur newydd yn ymgorffori bodau byw yn y "matrics cyfrifiadurol" a bydd yn rhedeg am ddeng miliwn o flynyddoedd. Dyma blaned y Ddaear.[3]
Yn ASCII (safon amgodio cymeriad ar gyfer cyfathrebu electronig) mae 42 yn creu'r symbol * (seren). Symbol sy'n gallu golygu "Unrhyw beth" neu "Ddim byd".