Enghraifft o: | mytholeg |
---|---|
Rhan o | Midewiwin |
Hil o gewri carreg ym mytholeg yr Abenaki, un o bobloedd brodorol Gogledd America yw'r A-senee-ki-wakw. Y cewri hyn oedd y creaduriaid cyntaf a grëwyd gan Glooscap, duw cyntafanedig yr Abenaki. Ond am eu bod mor fawr a thrwm ac felly'n lladd cymaint o anifeiliad wrth grwydro'r byd, cawsant eu difa gan Glooscap.
Maent yn perthyn i ddosbarth o gewri cyntefig tebyg i gewri barrug Jotunheimen ym mytholeg Llychlyn a'r Titaniaid ym mytholeg Roeg.