Enghraifft o: | band |
---|---|
Gwlad | Awstralia |
Label recordio | Columbia Records, Sony Music Entertainment, Interscope Records, Universal Music Group, Epic Records, Geffen Records, Hollywood Records, Island Records |
Dod i'r brig | 1973 |
Dechrau/Sefydlu | 31 Rhagfyr 1973 |
Genre | cerddoriaeth roc caled, roc a rôl, roc y felan, classic rock |
Yn cynnwys | Angus Young, Cliff Williams, Brian Johnson, Stevie Young, Matt Laug, Chris Chaney |
Lleoliad yr archif | Australian Performing Arts Collection |
Gwefan | https://acdc.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band roc caled Awstralaidd a ffurfiwyd yn Sydney ym 1973 gan y brodyr Angus a Malcolm Young yw AC/DC. Er ystyrient fel arloeswyr metel trwm,[1][2] mae aelodau'r band wastad wedi disgrifio eu cerddoriaeth fel "roc a rôl".[3]
Bu nifer o newidiadau i drefniant AC/DC cyn iddynt rhyddhau eu halbwm cyntaf, High Voltage, ym 1975. Ni newidiodd yr aelodaeth tan i'r gitarydd bas Cliff Williams cymryd lle Mark Evans ym 1977. Ym 1979, recordiodd y band eu halbwm llwyddiannus iawn Highway to Hell. Bu farw'r prif ganwr a chyd-ysgrifennwr caneuon Bon Scott ar 19 Chwefror 1980, ar ôl noson o yfed trwm. Ystyriodd y band roi'r gorau iddi, ond yn fuan wedyn, cafodd Brian Johnson, cyn-ganwr Geordie ei ddewis i gymryd lle Scott. Yn hwyrach y flwyddyn honno, rhyddhaodd y band eu halbwm brig, Back in Black.
Roedd albwm nesaf y band, For Those About to Rock We Salute You, hefyd yn llwyddiannus iawn ac hwn oedd eu halbwm cyntaf i gyrraedd safle rhif-un yn yr Unol Daleithiau. Gostyngodd poblogrwydd AC/DC ar ôl i'r drymiwr Phil Rudd adael ym 1983. Parhaodd gwerthiannau recordiau isel nes i The Razors Edge gael ei ryddhau ym 1990. Dychwelodd Phil Rudd ym 1994 a chyfrannodd at yr albwm Ballbreaker, a ryddhawyd ym 1995. Rhyddhawyd Stiff Upper Lip yn 2000 a derbyniodd glod gan y beirniaid. Cyhoeddwyd albwm newydd y band, Black Ice, ym Mehefin 2008 a rhyddhawyd ar 20 Hydref 2008.
Mae AC/DC wedi gwerthu dros 200 miliwn o albymau yn fyd-eang,[4] gan gynnwys 71 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau.[5] Amcangyfrifir i Back in Black werthu rhyw 42 miliwn o gopïau byd-eang[6] a 22 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig.[7] Fe gynhwysir AC/DC yn bedwerydd ar restr VH1 o'r 100 Artist Roc Caled Gorau[8] ac yn seithfed ar restr MTV o'r Bandiau Metel Caled Gorau Erioed.[9]