![]() Clawr caled, fersiwn UDA | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | George R. R. Martin |
Cyhoeddwr | AST ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 8 Awst 2000 ![]() |
ISBN | ISBN 0-553-10663-5 (clawr caled UDA), ISBN 0-00-224586-8 (clawr caled DU), ISBN 0-553-57342-X (clawr papur UDA) |
Genre | Ffantasi |
Cyfres | A Song of Ice and Fire |
Rhagflaenwyd gan | A Clash of Kings ![]() |
Olynwyd gan | A Feast for Crows ![]() |
Gwefan | http://www.georgerrmartin.com/grrm_book/a-storm-of-swords-a-song-of-ice-and-fire-book-three/ ![]() |
Nofel ffantasi gan George R. R. Martin yw A Storm of Swords a gyhoeddwyd gyntaf ar 8 Awst 2000 yng ngwledydd Prydain ac ynja yn yr Unol daleithiau yn Nhachwedd. Hon yw'r drydedd nofel yn y gyfres o saith: A Song of Ice and Fire.[1]
Rhagflaenwyd y nofel hon gan novella o'r enw Path of the Dragon, sef casgliad o'r penawdau am y ferch benfelen Daenerys Targaryen o'r brif nofel i gyfrol fechan unigol.
Pan gafodd A Storm of Swords ei chyhoeddi, hon oedd y nofel hiraf o'r dair. Roedd mor hir, penderfynwyd ei hollti yng ngwledydd Prydain, Israel, Gwlad Pwyl, Awstralia a'r fersiynnau Groeg a Ffrangeg a chafodd ei chyhoeddi mewn dwy gyfrol: Steel and Snow a Blood and Gold ym Mehefin ac Awst 2001. Yn fersiwn Ffrainc, fe'i holltwyd yn bedair rhan.
Enillodd A Storm of Swords Wobr Locus, 2001,[2] Gwobr Geffen yn 2002 am y Nofel Orau ac fe'i henwebwyd am Wobr Nebula yn 2001.[2] Hon oedd y gyntaf o'r gyfres i gael ei henwebu am Wobr Hugo, un o wobrau pwysicaf y byd gwyddonias.[2][3]