![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 235, 254 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 5,932.43 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.3303°N 3.3871°W ![]() |
Cod SYG | W04000247 ![]() |
Cod OS | SO055711 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Abaty Cwm-hir[1] neu Abaty Cwm Hir (Saesneg: Abbeycwmhir neu Abbey Cwmhir). Saif ger Afon Clywedog, i'r gogledd o dref Llandrindod.
Enwyd y pentref a'r gymuned ar ôl Abaty Cwm-hir, abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1143. Dim ond adfeilion sydd ar ôl bellach, ond gan yr abaty yma yr oedd yr eglwys fwyaf o abatai Cymru. Yma y claddwyd Llywelyn ap Gruffudd.
Ail-adeiladwyd eglwys pentref Abaty Cwm-hir yn 1866. Mae yma dafarn, yr Happy Union Inn, sy'n adeilad cofrestredig. Adeiladwyd Neuadd Cwm-hir yn 1867. Mae Llwybr Glyn Dŵr yn mynd trwy'r gymuned.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]