![]() Abaty Glyn y Groes o gopa Mynydd Felfed | |
Math | abaty ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandysilio-yn-Iâl ![]() |
Sir | Llandysilio-yn-Iâl ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 103 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9887°N 3.18653°W, 52.988704°N 3.18619°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Sistersaidd ![]() |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE003 ![]() |
Abaty Sistersiaidd yn nyffryn Afon Dyfrdwy rhyw filltir a hanner i'r gogledd o dref Llangollen yn Sir Ddinbych yw Abaty Glyn y Groes (Lladin: Valle Crucis) neu Abaty Glyn Egwestl. Daw ei henw o Groes Eliseg, sef hen groes Geltaidd o'r 8ed ganrif a saif gerllaw. Gorwedd yr abaty'n daclus ar lan afon Eglwyseg, mewn dyffryn bychan rhwng y Fron Fawr a Chreigiau Eglwyseg i'r Dwyrain a'r Mynydd Felfed (neu 'Goed Hyrddyn') i'r Gorllewin, ar draws y ffordd fawr.
Daw'r enw o Groes Eliseg sydd heb fod ymhell o'r abaty. Mae'r groes yn llawer hŷn na'r abaty, a sefydlwyd ym 1201. Sefydlwyd Glyn y Groes o Abaty Ystrad Marchell ger Y Trallwng, dan nawdd Madog ap Gruffudd Maelor, rheolwr Powys Fadog.
Er bod yr abaty yn bur adfeiliedig, gellir gweld y cynllun yn glir. Mae'n dilyn y cynllun Sistersaidd arferol, gyda lle cysgu i tua 20 o fynachod ac efallai tua 40 o frodyr lleyg. Yn fuan wedi marwolaeth Madog ap Gruffydd Maelor, aeth yr abaty ar dân ym 1236 a bu cryn ddifrod; mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw. Dioddefodd ddifrod pellach yn ystod dau ymosodiad y brenin Edward I ar Gymru ym 1276-1277 a 1282-1283. Talwyd iawndal ac adferwyd y difrod, a bu gwaith pellach ar yr adeilad dan yr Abad Adda ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ymddengys i nifer y brodyr lleyg, ac efallai'r mynachod, leihau ar ôl y pla a newidiwyd yr adeiladau o'r herwydd.