Enghraifft o: | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Daeth i ben | 30 Mai 2024 |
Dechrau/Sefydlu | 14 Rhagfyr 1918 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Castell-nedd Port Talbot |
Roedd Aberafan yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1918 hyd at 1983. Roedd yn cynnwys tref ddiwydiannol Port Talbot. Yn 2024, newidiwyd ffiniau ac enw'r etholaeth yn Etholaeth Aberafan Maesteg.
Poblogaeth ddosbarth gweithiol oedd ganddi'n bennaf, a bu'r sedd yn gadarnle i'r Blaid Lafur dros y blynyddoedd. Yn y gorffennol bu Ramsay MacDonald, prif weinidog cyntaf Llafur yn cynrychioli'r sedd (rhwng 1922 a 1929), a bu John Morris, a fu'n Ysgrifennydd Cymru ac yn Dwrnai Cyffredinol, yn ei chynrychioli rhwng 1959 a 2001.