Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.2485°N 4.2353°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref bach yng nghymuned Dyffryn Arth, Ceredigion, Cymru, yw Aberarth[1] ( ynganiad ; neu Aber-arth.[2] Fel yr awgryma ei enw, mae'r pentref yn sefyll ar aber Afon Arth lle rhed yr afon honno i Fae Ceredigion. Saif tua 3 milltir i'r gogledd o Aberaeron. Gellir gyrru drwy Aberarth ar yr A487 o Aberaeron i Lan-non.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]