Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9579°N 5.1227°W ![]() |
Cod OS | SM854334 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Mathri, Sir Benfro, Cymru, yw Abercastell[1] (Saesneg: Abercastle).[2] Saif ar yr arfordir ym mae Cwm Badau hanner ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun.
Dim ond ychydig o dai sydd yno heddiw, ond roedd yn harbwr bach digon prysur ym 1566. Yn ôl yr hynafiaethydd Richard Fenton, hwyliai llongau bach yn ôl ac ymlaen rhwng Abercastell a Bryste ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cludo menyn ac ŷd ar eu ffordd allan ac yn cludo nwyddau cyffredinol ar eu ffordd yn ôl. Yn ddiweddarach ceirch a allforid a glo carreg (anthracite) a fewnforid. Llosgid calch yn yr hen odyn sydd i'w weld yn yr harbwr o hyd.
Hanner milltir o'r pentref mae Carreg Samson, un o'r cromlechi gorau yng Nghymru. Dywedir fod bys Samson wedi'i gladdu ar Ynys-y-castell ger yr harbwr.
Ar 15 Mehefin 1876 glaniodd Alfred Johnson yn Abercastell yn ei gwch ugain troedfedd y Centennial ar ôl hwylio ar ei ben ei hun yr holl ffordd dros Fôr yr Iwerydd, y dyn cyntaf i gyflawni'r gamp honno.