Aberdeen

Aberdeen
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth200,680 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1175 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Stavanger, Atyrau, Regensburg, Clermont-Ferrand, Bulawayo, Houston, Gomel, Baku, Barranquilla Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Aberdeen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd65.1 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Don, Afon Dee, Aberdeen Bay Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.15°N 2.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000478, S19000600 Edit this on Wikidata
Cod postAB10-AB13 (parte), AB15, AB16, AB22-AB25 Edit this on Wikidata
GB-ABE Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Swydd Aberdeen.

Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg yr Alban: Obar Dheathain;[1] Sgoteg: Aiberdeen).[2] Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.

Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.


  1. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-03 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 3 Hydref 2019
  2. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 12 Ebrill 2022

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne