![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9333°N 5.2°W ![]() |
Cod OS | SM795315 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Llanrhian, Sir Benfro, Cymru, yw Abereiddi[1] (Saesneg: Abereiddy).[2] Gorwedd yng ngorllewin y sir, ar arfordir Penfro ar fae tywodlyd yng nghysgod penrhyn Penclegyr, tua hanner ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun.
Enillodd y traeth Faner las yn 2005. Ceir maes parcio mawr wrth ei ymyl. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro heibio i'r traeth sydd ynghyd â'r pentref yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gerllaw mae adfeilion yr harbwr a adeiladwyd ar gyfer y chwarel llechi leol a'r tai a godwyd ar gyfer y chwarelwyr.