![]() | |
Math | tref bost, tref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abergwaun ac Wdig ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9982°N 4.9804°W ![]() |
Cod OS | SM955375 ![]() |
Cod post | SA65 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Tref arfordirol yng nghymuned Abergwaun ac Wdig, Sir Benfro, Cymru, yw Abergwaun[1][2] (Saesneg: Fishguard). Saif ar arfordir gogleddol y sir ar Fae Ceredigion. Yma y mae priffordd yr A40 o Lundain a'r rheilffordd yn terfynu. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd i Rosslare (Iwerddon) o Wdig, tua milltir i'r gogledd-orllewin o Abergwaun. Llifa Afon Gwaun i'r môr yn y dref gan roi iddi ei henw.
Tra bod tarddiad "Abergwaun" yn amlwg, mae'r enw Saesneg yn fwy dyrys. Daw Fishguard o'r Hen Norseg Fiskigarðr, sef "lle i ddal pysgod". Sillafwyd yr enw fel "Fiscard" hyd at y 19g.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]