![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6447°N 3.9535°W ![]() |
Cod OS | SH679070 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Pentref bychan yng nghymuned Llanfihangel-y-Pennant, Gwynedd, Cymru, yw Abergynolwyn[1][2] ( ynganiad ). Saif gerllaw Afon Dysynni. Ar un adeg yr oedd diwydiant llechi pwysig yn yr ardal yma, a sefydlwyd y pentref yn y 1860au ar gyfer gweithwyr yn Chwarel Bryn Eglwys gerllaw yn Nant Gwernol. Heddiw ffermio a thwristiaeth yw’r prif ddiwydiannau. Cynhelir eisteddfod flynyddol yno.
Gerllaw’r pentref mae Rheilffordd Talyllyn, Llyn Mwyngil, Castell y Bere ger pentref cyfagos Llanfihangel-y-Pennant a Chraig yr Aderyn lle mae bryngaer o Oes yr Haearn ac amrywiaeth o adar.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]