Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwernyfed |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0331°N 3.2044°W |
Cod OS | SO174378 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref yng nghymuned Gwernyfed, Powys, Cymru, yw Aberllynfi[1][2] (Saesneg: Three Cocks). Saif ar lân ddeheuol Afon Gwy, i'r de o'r Gelli Gandryll ger cyffordd y priffyrdd A438 ac A4079. Llifa Afon Llynfi fymryn i'r gorllewin o'r pentref i ymuno ag Afon Gwy.
Lleolir Ysgol Uwchradd Gwernyfed yma, ac mae yma hefyd ystâd ddiwydiannol. Gerllaw y pentref mae olion Tomen Aberllynfi, castell mwnt a beili sy'n dyddio o'r 12g. Ceir bryngaer Aberllynfi Gaer yn yr ardal hefyd. Cyfyd y Mynydd Du i'r de o Aberllyfni.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]