![]() | |
Math | penrhyn ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Gruffudd ap Cynan ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhosyr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Menai ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1269°N 4.3314°W ![]() |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Abermenai yw pen gorllewinol Afon Menai. Ar ochr ogleddol y Fenai, ar Ynys Môn, mae Pwynt Abermenai yn ymestyn tua'r de, gan adael dim ond darn cul o fôr rhwng pen deheuol y pwynt a Chaer Belan ar ochr Arfon i'r Fenai. I'r dwyrain o Bwynt Abermenai, ceir Traeth Abermenai, hefyd Traeth Melynog, ardal helaeth o fwd sy'n ymestyn hyd aber afon Braint. I'r dwyrain o Gaer Belan ar yr ochr draw mae aber y Foryd. Saif yng nghymuned Rhosyr.