Aberriw

Aberriw
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,334, 1,338 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,721.07 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5963°N 3.2026°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000253 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ187008 Edit this on Wikidata
Cod postSY21 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUSteve Witherden (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Aberriw[1] (Saesneg: Berriew). Saif i'r de-orllewin o'r Trallwng ac i'r gogledd-orllewin o Drefaldwyn. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,306.

Cysegrwyd eglwys Aberriw, sy'n dyddio o'r 19g yn ei ffurf bresennol, i sant Beuno, oedd yn ôl traddodiad yn frodor o'r pentref. Yn y Canol Oesoedd roedd yn ganolfan grefyddol i gantref Cedewain. Tua milltir i'r de-ddwyrain o Aberriw ceir Rhyd Chwima, croesfan strategol ar Afon Hafren a fu'n man cyfarfod er cynnal trafodaethau rhwng Tywsyog Cymru a Brenin Lloegr yn y 13g.

Mae Capel Pentre Llifior (1797) yn un o adeiladau cynharaf y Wesleaid yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[3]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne