Abraham Lincoln

Abraham Lincoln
Ganwyd12 Chwefror 1809 Edit this on Wikidata
Hodgenville, Sinking Spring Farm Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 1865 Edit this on Wikidata
o saeth i'r pen Edit this on Wikidata
Washington, Tŷ Petersen Edit this on Wikidata
Man preswylSpringfield, Washington, Perry County, Hodgenville, Lincoln's New Salem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, postfeistr, cyfreithiwr, gwladweinydd, ffermwr, swyddog milwrol, llenor Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Arlywydd yr Unol Daleithiau, Aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Illinois, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAnerchiad Gettysburg Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadY Beibl, Sufferings in Africa, Taith y Pererin Edit this on Wikidata
Taldra193 centimetr, 204 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol, Whig Party, National Union Party Edit this on Wikidata
TadThomas Lincoln Edit this on Wikidata
MamNancy Hanks Lincoln Edit this on Wikidata
PriodMary Todd Lincoln Edit this on Wikidata
PlantEdward Baker Lincoln, Tad Lincoln, Robert Todd Lincoln, William Wallace Lincoln Edit this on Wikidata
Llinachteulu Lincoln Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Abraham Lincoln (12 Chwefror 180915 Ebrill 1865), a elwir weithiau yn Abe Lincoln, yn wladweinydd Americanaidd ac yn gyfreithiwr, ac ef oedd 16eg arlywydd UDA rhwng 1861 ac 1865. Arweiniodd Lincoln y wlad adeg Rhyfel Cartref America a llwyddodd i ddiogelu'r Undeb, diddymu caethwasiaeth, atgyfnerthu'r llywodraeth ffederal a moderneiddio’r economi.

Ganwyd ef i deulu tlawd mewn caban pren, a magwyd ef yn bennaf mewn ardal ffiniol yn Indiana. Roedd yn hunan-addysgedig, gan gymhwyso yn gyfreithiwr, a daeth yn arweinydd y Blaid Chwigaidd, yn ddeddfwr yn nhalaith Illinois ac yn Gyngreswr yng Nghyngres UDA yn cynrychioli Illinois. Yn 1849 dychwelodd i fod yn gyfreithiwr ond cythruddwyd ef gan y tiroedd ychwanegol a roddwyd at ddefnydd caethwasiaeth yn sgil Deddf Kansas-Nebraska. Dychwelodd i’r byd gwleidyddol yn 1854 gan ddod yn arweinydd y Blaid Weriniaethol newydd, a daeth i sylw cynulleidfa genedlaethol oherwydd ei ddadleuon yn 1858 gyda Stephen Douglas. Etholwyd ef yn Arlywydd UDA yn Nhachwedd 1860 ac ymgymerodd â’i swydd newydd ym mis Mawrth 1861. Enillodd fuddugoliaeth ysgubol yn y taleithiau Gogleddol ond roedd cefnogwyr caethwasiaeth yn y taleithiau Deheuol yn gweld llwyddiant Lincoln fel y Gogledd yn gwrthod derbyn eu hawl i gynnal caethwasiaeth. Dechreuodd y taleithiau Deheuol dorri i ffwrdd o'r Undeb. Er mwyn sicrhau eu hannibyniaeth, dechreuodd y Taleithiau Cydffederal ymosod ar Fort Sumter, sef caer Americanaidd yn y De, ac mewn ymateb i hynny, galwodd Lincoln ar luoedd arfog i ddistewi’r gwrthryfel ac adfer yr Undeb.

Fel arweinydd y Gweriniaethwyr Cymedrol, roedd gan Lincoln gyfeillion a gelynion ar y ddwy ochr. Daeth y Democratiaid Rhyfel â grŵp o’i gyn-wrthwynebwyr draw i’r aden gymhedrol, ond roedd y Gweriniaethwyr Radicalaidd yn mynnu bod y bradychwyr yn y taleithiau Deheuol yn cael eu cosbi’n llym. Roedd y Democratiaid gwrth-ryfel (a elwid yn ‘Copperheads’) yn ei gasáu ac roedd grwpiau o’r Cydffederalwyr yn cynllwynio i’w lofruddio. Llwyddodd Lincoln i reoli'r grwpiau gwahanol hyn drwy fanipiwleiddio eu gelyniaeth at ei gilydd, drwy wasgaru ei gefnogaeth wleidyddol yn ofalus a manteisio ar ei apêl ymhlith pobl UDA. Roedd Araith Gettysburg Lincoln yn un o’r areithiau pwysicaf yn hanes UDA gan ei fod yn pwysleisio cenedlaetholdeb a gwladgarwch, egwyddorion gweriniaethol, hawliau cydradd, rhyddid a democratiaeth. Yn ystod y Rhyfel Cartref roedd Lincoln yn archwiliwr craff o’r strategaethau a’r tactegau a ddefnyddiwyd yn y rhyfel, gan gynnwys y cadfridogion oedd yn cael eu dewis a’r blocâd morwrol a roddwyd ar fasnach y taleithiau Deheuol. Penderfynodd atal habeas corpus a llwyddodd i osgoi ymyrraeth oddi wrth Brydain drwy ddiffiwsio Mater Trent. Yn sgil ei arweinyddiaeth fedrus llwyddodd i roi diwedd ar gaethwasiaeth drwy lofnodi'r Datganiad Rhyddfreinio, a gorchmynnodd bod y Fyddin yn amddiffyn ac yn recriwtio cyn-gaethweision. Roedd hefyd yn annog taleithiau ar yr arfordir i anghyfreithloni caethwasiaeth ac roedd yn hyrwyddwr brwdfrydig o'r 13eg Gwelliant yng Nghyfansoddiad UDA, a oedd yn gwneud caethwasiaeth yn anghyfreithlon ar draws y wlad.

Bu Lincoln yn ffigwr pwysig o ran trefnu a rheoli ei ymgyrch ei hunan i gael ei ail-ethol. Ceisiodd uno’r UDA, a oedd wedi dioddef yn sgil y rhyfel. Ar 14 Ebrill 1865, ychydig ddiwrnodau wedi diwedd y rhyfel yn Appomattox, pan oedd Lincoln wedi mynd i weld drama yn Theatr Ford gyda’i wraig, Mary, cafodd ei lofruddio gan gefnogwr Cydffederal, sef John Wilkes Booth. Mae Lincoln yn cael ei gofio fel merthyr yn UDA ac yn cael ei gyfrif ymhlith arlywyddion pwysicaf hanes UDA.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne