Delwedd:Tribunal Supremo, Madrid.jpg, Endavant Cuixart 10.jpg | |
Enghraifft o: | trial ![]() |
---|---|
Rhan o | Catalan independence process ![]() |
Dechreuwyd | 30 Hydref 2017 ![]() |
Daeth i ben | 14 Hydref 2019 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Trial 9-N of Artur Mas, Joana Ortega and Irene Rigau ![]() |
Lleoliad | Palacio de Justicia ![]() |
Prif bwnc | refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Sbaen ![]() |
Rhanbarth | Madrid ![]() |
![]() |
Achos llys yn Uwch Lys Sbaen yw achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia a ddechreuodd ar 12 Chwefror 2019. Mae'r 18 diffynnydd bron i gyd yn gyn-aelodau o gabined Llywodraeth Catalwnia ac yn cynnwys Carme Forcadell (Arlywydd Senedd Catalwnia), Jordi Sànchez (Llywydd Cyngres Genedlaethol Catalwnia) a Jordi Cuixart (Llywydd yr Òmnium Cultural). Cânt eu herlyn am nifer o droseddion honedig gan gynnwys hybu annibyniaeth y wlad, gwrthryfela a chamddefnydd o arian cyhoeddus (neu 'embeslad') a wariwyd pan drefnodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm ynghylch annibyniaeth yn Hydref 2017.
Barnwr yr achos yw Manuel Marchena.[1][2] Yn y cyfamser, mae Carles Puigdemont yn parhau yn alltud yng Ngwlad Belg, lle mae'n rhydd i wneud sylwadau ar faterion gwleidyddol Catalwnia, gan gynnwys yr achos hwn.
Mae Amnest Rhyngwladol, y Cenhedloedd Unedig a nifer o gyrff a sefydliadau eraill wedi mynegi eu pryder fod Sbaen wedi torri hawliau dynol yr amddiffynion.[3][4].
Mae'r Erlynydd yn ymgorffori erlynwyr y cyrff canlynol: