Enghraifft o: | gang rape |
---|---|
Dyddiad | 16 Rhagfyr 2012 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Achos o drais rhywiol a dynnodd sylw'r byd oedd achos trais Delhi. Ar 16 Rhagfyr 2012 cafodd menyw 23 oed ei chriwdreisio a'i churo ar fws gan bum dyn, yn cynnwys gyrrwr y bws. Cafodd ffrind y fenyw ar y bws ei guro hefyd.[1] Bu farw'r fenyw 13 diwrnod yn hwyrach o'i hanafiadau mewn ysbyty yn Singapôr.[2]