Aderyn Ffrigad Amrediad amseryddol: Eosen cynnar i'r presenol | |
---|---|
![]() | |
Aderyn ffrigad gwych (Fregata magnificens) ar Ynysoedd y Galapagos. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Species | |
| |
![]() | |
Cynefin y Ffrigad |
Teulu o adar morol yw'r adar ffrigad neu aderyn ffrigad (Saesneg: Frigatebird) a elwir yn Lladin yn Fregatidae, sydd yn urdd y Suliformes (cyn y 1990au, fe'i rhoddwyd yn urdd y Pelecaniformes).[1] Ceir pum rhywogaeth o fewn y teulu, ac maen nhw'n cael eu grwpio mewn un genws, sef y Fregata.
Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, gyda lled yr adenydd agored yn aml yn fwy na 2.30 metr. Mae gan bob un o'r 5 rhywogaeth blu lliw du, cynffonau hir a fforchiog a phigau tro. Er gwaethaf eu maint maent yn adar ysgafn iawn, gyda phwysau ychydig gannoedd gram. Mae gan y menywod foliau gwyn ac mae gan y gwrywod fagiau gwynt coch-llachar yn y gwddf er mwyn dennu'r fenyw. Gallant aros yn yr awyr am fwy nag wythnos a gallant gyrraedd 400 km / h.