Adrienne Lecouvreur | |
---|---|
Adrienne Lecouvreur, fel Cornelia yn The Death of Pompey gan Pierre Corneille | |
Ganwyd | 5 Ebrill 1692 Damery |
Bu farw | 20 Mawrth 1730 Paris |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | perchennog salon, actor llwyfan, actor |
Swydd | Sociétaire o'r Comédie-Française |
Cyflogwr | |
Partner | Maurice de Saxe |
Actores o Ffrainc oedd Adrienne Lecouvreur (5 Ebrill 1692 – 20 Mawrth 1730).
Fe'i ganed yn Damery, Marne, a pherfformiodd ar lwyfan yn broffesiynol yn Lille. Ar ôl iddi gael ei phrofiad cyntaf o actio yn y Comédie Française ym Mharis ym 1717, daeth yn hynod boblogaidd gyda'r cyhoedd, tan ei marwolaeth annisgwyl.[1]
Cafodd berthynas gyda Maurice de Saxe, a ddaeth i ddiwedd trychinebus pan ymddengys iddi gael ei gwenwyno gan ei gelyn, Maria Karolina Sobieska, Duges Bouillon. Am fod yr Eglwys Gatholig wedi gwrthod rhoi angladd Cristnogol iddi, arweiniodd hyn at ei ffrind Voltaire i ysgrifennu cerdd yn llawn chwerder am y pwnc.
Roedd ei bywyd wedi ysbrydoli drama drasiedi gan Eugène Scribe ac Ernest Legouvé a seilir ar opera Francesco Cilea, Adriana Lecouvreur a'r operetta Adrienne (1926) gan Walter Goetze ar y ddrama hon hefyd.[2] are based. Cyn y rhain, fodd bynnag, cyflwynodd Edoardo Vera ei "dramma lirico" Adriana Lecouvreur e la duchessa di Bouillon ym 1856.[3] Ym 1913, chwaraeodd Sarah Bernhardt ran Lecouvreur yn y ffilm fud Adrienne Lecouvreur. Ym 1928, ffilmiodd MGM Studios Dream of Love, yn seiliedig ar y ddrama Scribe and Legouvé, Adrienne Lecouvreur, yn serennu Joan Crawford a Nils Asther. Mae chwe ffilm arall o leiaf wedi'u seilio ar ei bywyd.[4]