Aeschulos | |
---|---|
Ganwyd | 525 CC Elefsina |
Bu farw | 456 CC Gela |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | awdur trasiediau, gwron, dramodydd |
Adnabyddus am | Agamemnon, Cludwyr Rhyddid, Yr Eumenides, Y Persiaid, Promtheus mewn cadwynau, Saith yn Erbyn Thebes, Y deisyfwragedd |
Arddull | Greek tragedy |
Tad | Euphorion o Eleusis |
Plant | Euphorion, Eueon |
Dramodydd Geoegaidd oedd Aeschulos (Groeg: Αἰσχύλος, 525 CC/524 CC - 456 CC). Ef oedd y cyntaf o dri trasiedydd mawr Athen; dilynwyd ef gan Soffocles ac Euripides.
Ganed ef yn 525 neu 524 CC yn Eleusis, tref fechan rhyw 30 km i'r gogledd-orllewin o Athen. Yn 490 CC, ymladdodd Aeschulos a'i frawd Cynegeirus yn erbyn y Persiaid ym Mrwydr Marathon. Lladdwyd Cynegeirus yn y frwydr. Efallai iddo hefyd ymladd ym Mrwydr Salamis ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond nid oes prawf o hyn, er iddo ddisgrifio'r ymladd yn fyw yn ei ddrama Y Persiaid.
Teithiodd Aeschulos i Sicilia unwaith neu ddwy yn y 470au CC, ar wahoddiad Hieron, teyrn Siracusa. Dychwelodd i Sicilia yn 458 CC, a bu farw yno, yn ninas Gela, yn 456 neu 455 BC. Yn ôl un chwedl. fe'i lladdwyd pan gredodd eryr mai carreg oedd ei ben moel, a gollwng crwban arno.
Ar garreg ei fedd, rhoddwyd arysgrif oedd yn coffáu ei wrhydri fel milwr yn hytrach na'i fri fel dramodydd:
Groeg | Cymraeg |
|
|