Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd |
Y gwrthwyneb | iechyd meddwl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae afiechyd meddyliol neu salwch meddyliol yn batrwm ymddygiadol neu seicolegol a welir mewn unigolyn sydd yn achosi ing neu anabledd na ystyrir yn rhan o ddatblygiad neu ddiwylliant normal. Mae adnabyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylderau meddyliol wedi newid dros amser a thros ddiwylliannau gwahanol. Amrywia'r diffiniadau, asesiadau a dosbarthiadau o anhwylderau meddyliol, ond ceir rhestr o feini prawf a restrir yn yr ICD, DSM a chyfeirlyfrau eraill a dderbynir gan bobl proffesiynol ym maes iechyd meddyliol. Mae'r categorïau hyn yn cynnwys anhwylderau tymer, anhwylderau pryder, anhwylderau seicotig, anhwylderau bwyta, anhwylderau datblygiadol, anhwylderau personoliaeth a chategorïau eraill. Mewn nifer o achosion, nid oes un achos pendant neu barhaus dros anhwylderau meddyliol. Gall nodweddion o'r fath fod yn barhaus, yn ysbeidiol, neu gallant ddigwydd am gyfnodau ynysig, unigol. Disgrifiwyd llawer o anhwylderau, gydag arwyddion a symptomau sy'n amrywio'n fawr rhwng anhwylderau ac anhwylder.[1][2] Gall gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, fel arfer seicolegydd clinigol neu seiciatrydd, ddeiagnosio anhwylderau o'r fath.[3]
Mae anhwylderau meddyliol yn gyffredin, gyda thraean o bobl yn y mwyafrif o wledydd yn ateb gofynion digon o'r meini prawf yn ystod rhyw gyfnod o'u bywydau. Lleolir gwasanaethau ar gyfer anhwylderau meddyliol mewn ysbytai neu yn y gymuned. Caiff anhwylderau meddyliol eu deiagnosio gan ddefnyddio methodoleg gwahanol, gan ddibynnu yn aml ar hanes y claf a chyfweliad. Dau opsiwn ar gyfer triniaeth yw moddion seicotherapi a seiciatrig, yn ogystal â hunan-gymorth a chefnogaeth ymyrrol. Gellir gorfodi triniaeth yn dibynnu ar ddeddfwriaeth gwlad. Gwelir nifer o ymgyrchoedd er mwyn newid safon gwasanaethau ac agweddau pobl at anhwylderau meddyliol.
Mae achos salwch meddwl yn aml yn aneglur ac mae'r damcaniaethau'n ymgorffori canfyddiadau o ystod o feysydd amrywiol. Caiff anhwylder meddwl fel arfer ei ddiffinio gan gyfuniad o sut mae person yn ymddwyn, yn teimlo, yn canfod, neu'n meddwl.[4] Gall hyn fod yn gysylltiedig â rhanbarthau neu swyddogaethau penodol yr ymennydd, yn aml mewn cyd-destun cymdeithasol. Gellir dweud bod salwch meddwl yn un agwedd o iechyd meddwl. Dylid ystyried credoau diwylliannol a chrefyddol, yn ogystal â normau cymdeithasol, wrth wneud diagnosis.[5]
Lleolir llawer o'r gwasanaethau mewn ysbytai seiciatrig neu yn y gymuned, a chynhelir asesiadau gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol megis seiciatryddion, seicolegwyr, nyrsys seiciatrig a gweithwyr cymdeithasol clinigol, gan ddefnyddio dulliau amrywiol megis profion seicometrig ond yn aml yn dibynnu ar arsylwi a chwestiynu'r claf. Darperir triniaethau gan amryw o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Mae seicotherapi a meddyginiaeth seiciatrig yn ddau opsiwn ac mae triniaethau eraill yn cynnwys newidiadau i ffordd o fyw, ymyriadau cymdeithasol, cymorth gan gymheiriaid, a hunangymorth. Mewn lleiafrif o achosion, efallai y bydd carchar neu driniaeth anwirfoddol yn dilyn y diagnosis. Dangoswyd bod rhaglenni atal (ee ymarrfer corff) yn lleihau iselder.[4][6]
Yn 2019, roedd y prif anhwylderau meddwl ledled y byd yn cynnwys iselder, a effeithiodd ar tua 264 miliwn, anhwylder deubegwn, a effeithiodd ar tua 45 miliwn, dementia, a effeithiodd ar tua 50 miliwn, a sgitsoffrenia a seicosisau eraill, a effeithiodd ar tua 20 miliwn o bobl.[7] Mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn cynnwys anabledd deallusol ac anhwylderau sbectrwm awtistiaeth sydd fel arfer yn codi yn ystod babandod neu blentyndod.[8][7] Gall stigma a gwahaniaethu ychwanegu at y dioddefaint a'r anabledd sy'n gysylltiedig ag anhwylderau meddwl, gan arwain at symudiadau cymdeithasol amrywiol yn ceisio cynyddu dealltwriaeth o'r salwch a cheisio cynnwys y claf mewn digwyddiadau cymdeithasol.
Yn 2022, yn dilyn dwy flynedd o'r Gofid Mawr, credir yn gyffredinol fod clo mawr a rhannol yn ynysyu pobl ac yn dwysau salwch meddwl.