![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Cumbria |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ardal y Llynnoedd, Lloegr ![]() |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 54.6494°N 3.5689°W ![]() |
Tarddiad | Styhead Tarn ![]() |
Aber | Môr Iwerddon ![]() |
Llednentydd | Afon Cocker, Afon Greta, Cumbria, Afon Marron ![]() |
Llynnoedd | Derwentwater ![]() |
![]() | |
Afon yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Afon Derwent.
Mae'n tarddu yn Sprinkling Tarn oddi tan Scafell Pike yn Ardal y Llynnoedd cyn llifo i'r gogledd trwy Borrowdale, lle mae'n lledu i ffurfio llyn, sef Derwentwater. Wedyn mae'n llifo i'r gogledd eto heibio tref Keswick lle mae Afon Greta yn ymuno â hi. Mae'n mynd i mewn i Llyn Bassenthwaite o'r de ac yn ei adael o'r gogledd cyn iddi lifo i'r gorllewin tuag at dref Cockermouth, lle mae Afon Cocker yn ymuno â hi. Ar ôl hynny, mae'n mynd ymlaen i'r gorllewin heibio pentref Papcastle i'w aber yn nhref Workington, lle mae'n llifo i mewn i Fôr Iwerddon.