![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Horsham, Crawley, Ardal Mole Valley, Bwrdeistref Reigate a Banstead, Bwrdeistref Elmbridge ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4011°N 0.3392°W ![]() |
Aber | Afon Tafwys ![]() |
Llednentydd | Hookwood Common Brook ![]() |
Dalgylch | 512 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 80 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 6.64 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Afon yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Afon Mole sy'n un o lednentydd Afon Tafwys. Mae'n tarddu yng Ngorllewin Sussex ger Maes Awyr Gatwick ac yn llifo i gyfeiriad gogledd-orllewinol trwy Surrey am 50 milltir (80 km) i ymuno ag Afon Tafwys ym Molesey gyferbyn â Phalas Hampton Court[1]. Mae'r afon yn rhoi ei henw ar Ardal Mole Valley sy'n un o ardaloedd an-fetropolitan Surrey.
Mae'r afon yn croesi'r Twyni Gogleddol rhwng Dorking a Leatherhead, lle mae'n torri trwy'r sialc i greu dyffryn ag ochrau serth, a adwaenir fel y Mole Gap.[2]