Afon Tawe ym Mhontardawe | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.62°N 3.93°W |
Aber | Môr Hafren |
Llednentydd | Afon Twrch (Tawe), Afon Giedd, Afon Haffes |
Dalgylch | 272 cilometr sgwâr |
Hyd | 48 cilometr |
Afon yn ne-orllewin Cymru yw Afon Tawe.
Mae'r afon yn tarddu yn Llyn y Fan Fawr ym Mannau Brycheiniog, Powys gyda'i haber yn Abertawe. Mae nifer o afonydd, fel Twrch, yn ymuno â Thawe drwy gydol ei chwrs. Mae Tawe yn llifo drwy nifer o drefi a phentrefi Cwm Tawe, gan gynnwys Abercraf, Ystradgynlais, Ystalyfera, Pontardawe, Trebannws, Clydach, a Threforys, cyn cyrraedd y môr yn Abertawe.
Ceir cyfeiriad at Lwch Tawe, neu'r llyn lle tardd yr afon yn chwedl Culhwch ac Olwen. Hen air am lyn ydy 'llwch'; fe'i ceir hefyd yn yr enw 'Talyllychau').