![]() Afon Tawe ym Mhontardawe | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.62°N 3.93°W ![]() |
Aber | Môr Hafren ![]() |
Llednentydd | Afon Twrch (Tawe), Afon Giedd, Afon Haffes ![]() |
Dalgylch | 272 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 48 cilometr ![]() |
![]() | |
Afon yn ne-orllewin Cymru yw Afon Tawe.
Mae'r afon yn tarddu yn Llyn y Fan Fawr ym Mannau Brycheiniog, Powys gyda'i haber yn Abertawe. Mae nifer o afonydd, fel Twrch, yn ymuno â Thawe drwy gydol ei chwrs. Mae Tawe yn llifo drwy nifer o drefi a phentrefi Cwm Tawe, gan gynnwys Abercraf, Ystradgynlais, Ystalyfera, Pontardawe, Trebannws, Clydach, a Threforys, cyn cyrraedd y môr yn Abertawe.
Ceir cyfeiriad at Lwch Tawe, neu'r llyn lle tardd yr afon yn chwedl Culhwch ac Olwen. Hen air am lyn ydy 'llwch'; fe'i ceir hefyd yn yr enw 'Talyllychau').