![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Perth a Kinross, Stirling ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 56.354648°N 3.291943°W ![]() |
Tarddiad | Coire Laoigh ![]() |
Aber | Moryd Tay ![]() |
Llednentydd | River Tummel, River Earn, Afon Isla, Afon Dochart, Afon Almond, Afon Braan, Afon Lyon ![]() |
Dalgylch | 6,216 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 193 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 170 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd | Loch Tay ![]() |
![]() | |
Afon Tay (Gaeleg yr Alban: Tatha) yw afon hwyaf yr Alban, 193 km (120 milltir) o hyd. Hi yw afon fwyaf Prydain o ran llif y dŵr, 170 m3 yr eiliad. Mae'n tarddu yn Ucheldiroedd yr Alban ac yn llifo trwy Strathtay a thrwy ganol dinas Perth i gyrraedd y môr ym Moryd Tay ar arfordir dwyreiniol yr Alban, i'r de o ddinas Dundee.
Ceir tarddle'r afon tua 20 milltir o Oban ar arfordir gorllewinol yr Alban, dan yr enw afon Connonish, ac yn nes ymlaen yn afon Fillan. Newidia'r enw eto i afon Dochart cyn iddi lifo i mewn i Loch Tay yn Killin. Dim ond wrth iddi adael Loch Tay y gelwir hi yn afon Tay. Mae'r afon yn enwog am ei physgota eog.