Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | yr Ariannin |
Cyfesurynnau | 43.6997°S 66.4833°W, 41.9804°S 71.1485°W, 43.3426°S 65.0536°W |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Afon Tecka, Afon Chico, Q21840184 |
Dalgylch | 53,801 cilometr sgwâr |
Hyd | 810 cilometr |
Arllwysiad | 30 metr ciwbic yr eiliad |
Mae Afon Camwy (Sbaeneg, Río Chubut) yn afon ym Mhatagonia, Ariannin. Mae'r enw Sbaeneg yn dod o'r gair Tehuelche chupat, sy'n golygu 'tryloyw', ond gan fod gair Sbaeneg chupar sy'n golygu "sugno", newidiwyd yr enw i Chubut. Mae talaith Chubut yn cael ei enw o'r afon.
O'i tarddiad yn yr Andes ger Carreras, mae'r afon yn llifo am tua 800 kilometr tua'r dwyrain gan gyrraedd y môr gerllaw Rawson. Tua 120 km i'r gorllewin o Drelew mae argae a adeiladwyd yn 1963 i greu llyn o tua 70 cilometr sgwar.
Ar lan Afon Camwy y sefydlodd y Cymry gyntaf pan ddaethant i sefydlu'r Wladfa yn 1865. Ymhlith y trefi a'r pentrefi yn Nyffryn Camwy mae Trelew, Rawson, Gaiman a Dolavon.