![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Aberdeen, Dinas Aberdeen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 57.142332°N 2.06716°W ![]() |
Aber | Môr y Gogledd ![]() |
Llednentydd | Afon Quoich ![]() |
Dalgylch | 2,100 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 154 cilometr ![]() |
![]() | |
Afon yn Swydd Aberdeen, gogledd-ddwyrain yr Alban, yw Afon Dee (Gaeleg yr Alban: Uisge Dè).[1] Mae'n tarddu yn y Cairngorms ac yn llifo trwy Royal Deeside i gyrraedd Môr y Gogledd yn Aberdeen. Ei hyd yw 90 milltir.
Mae'r afon yn tarddu 4000 troedfedd i fyny ar lwyfandir Braeriach. Mae afonydd eraill yn llifo iddi yn Lairig Ghru ac mae'n rhedeg rhwng mynyddoedd uchel Ben Macdui a Cairn Toul. Yn y Linn of Dee mae'r llifo trwy geunant naturiol 300m. Yn ardal "Glannau Dee Brenhinol" rhed yr afon heibio i bentrefi a threfi Braemar, Ballater, Aboyne a Banchory.
Cyn cyrraedd Môr y Gogledd, mae Afon Dee yn llifo trwy harbwr Aberdeen. Cloddiwyd sianel artiffisial yno yn 1872, i wella'r harbwr.