Math | afon, sacred river |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ganga |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | India |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 22.0833°N 90.8333°E, 30.1451°N 78.5974°E |
Tarddiad | Gangotri Glacier |
Aber | Bae Bengal |
Llednentydd | Afon Varuna, Afon Tamsa, Ramganga, Afon Gomti, Afon Ghaghara, Gandak, Afon Kosi, Afon Mahananda, Afon Yamuna, Afon Son, Afon Bhagirathi, Afon Gandaki, Afon Padma, Afon Alaknanda, Afon Karmanasa, Sarayu, Afon Yarlung Tsangpo, Afon Burhi Gandak, Afon Punpun, Rāmgangā River |
Dalgylch | 1,060,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 2,525 cilometr |
Arllwysiad | 12,000 metr ciwbic yr eiliad |
Mae Afon Ganga[1] (hefyd Ganges) yn afon fawr yng ngogledd India. Mae'n tarddu, dan yr enw Afon Bhagirathi, o rewlif Gangotri ym mynyddoedd yr Himalaya, ac yn uno ag Afon Alaknanda gerllaw Deoprayag i ffurfio'r Ganga. Mae'r afon 2,525 km (1,569 milltir), felly, yn codi yng ngorllewin yr Himalaya yn nhalaith Indiaidd Uttarakhand, ac yn llifo i'r de a'r dwyrain trwy Wastadedd Gogledd India i Bangladesh, lle mae'n gwagio i Fae Bengal. Hi yw'r drydedd afon fwyaf ar y Ddaear o ran arllwysiad.[2]
Cyn cyrraedd y môr mae'n ymwahanu i nifer o afonydd llai, yn cynnwys Afon Hoogli ger Calcutta ac Afon Padma, sy'n llifo trwy Bangladesh. Mae'r gair Ganga yn golygu "afon" yn yr iaith Hindi.
Ystyrir y Ganga yn afon sanctaidd mewn Hindwaeth, a chaiff ei chynyrchioli gan y dduwies Maa Ganga (mam Ganga).[3] Ceir nifer o leoedd sanctaidd ar lannau'r afon, yn cynnwys Varanasi a Haridwar. Dywedir fod ymdrochi unwaith yn yr afon yn dileu un pechod. Wedi llosgi corff marw, mae rhoi'r lludw yn y Ganga yn fodd i osgoi cylch ad-eni.[4]
O gwmpas glannau'r afon, ceir tir ffrwythlon sy'n gallu cynnal poblogaeth fawr. Yn 2005), amcangyfrifid fod 8% o boblogaeth y byd yn byw yn nalgylch y Ganga. Mae'r Ganga'n gartref i oddeutu 140 o rywogaethau o bysgod a 90 o rywogaethau o amffibiaid ac yn cynnwys rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol fel y dolial a dolffin afon De Asia.[5]
Yn y blynyddoedd diwethaf mae llygredd yn yr afon wedi datblygu'n broblem enfawr, yn rhannol oherwydd fod cymaint o lwch dynol, a chyrff heb eu llosgi, yn cael eu rhoi yn yr afon. Mae lefelau bacteria colifform fecal, sy'n dod o wastraff dynol, yn yr afon ger Varanasi fwy na chan gwaith y lefel derbyniol, swyddogol y wlad.[5] Ystyrir Cynllun Gweithredu'r Ganga, sef menter amgylcheddol i lanhau'r afon, yn cael ei ystyried yn fethiant a briodolir ddiffyg ewyllys yn y llywodraeth, arbenigedd technegol gwael, diffyg cynllunio amgylcheddol a diffyg cefnogaeth gan yr awdurdodau crefyddol brodorol.[6]