Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.6853°N 2.5436°W, 52.4944°N 3.7375°W |
Aber | Môr Hafren |
Llednentydd | Afon Efyrnwy, Afon Tern, Afon Stour, Afon Avon, Afon Avon, Afon Tefeidiad, Afon Leadon, Afon Gwy, Afon Little Avon, Afon Camlad, Afon Chelt, Afon Frome, Afon Lyd, Afon Perry, Afon Salwarpe, Afon Worfe, Afon Carno, Afon Clywedog, Afon Taf, Horsbere Brook |
Dalgylch | 11,420 cilometr sgwâr |
Hyd | 354 cilometr |
Arllwysiad | 106.62 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Afon hiraf Prydain yw Afon Hafren (Saesneg River Severn), 354 km (219 milltir) o hyd. Mae'n tarddu yng nghanolbarth Cymru cyn llifo trwy orllewin Lloegr am ran o'i chwrs a llifo i Fôr Hafren rhwng Caerdydd a Weston-super-Mare.
Mae Afon Hafren yn tarddu ar lethrau gogleddol Pumlumon ger Llanidloes, ar uchder o 610m. Nid yw tarddle Afon Gwy ymhell, ar lethrau deheuol Pumlumon. Mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain trwy Goedwig Hafren. Ychydig cyn cyrraedd Llanidloes mae Afon Dulas yn ymuno â hi ac yna yn nhref Llanidloes ei hun mae Afon Clywedog yn ymuno. O Lanidloes mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio Llandinam a Chaersŵs, lle mae Afon Carno yn ymuno. Mae'n llifo trwy'r Drenewydd a heibio Castell Dolforwyn ac Aber-miwl ac yna trwy'r Trallwng. Am ychydig filltiroedd mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yna mae'n croesi i Loegr, lle mae'n parhau tua'r dwyrain i lifo trwy Amwythig. Mae wedyn yn llifo heibio Ironbridge a Bridgnorth, Stourport-on-Severn ac yna Caerwrangon, lle mae Afon Tefeidiad yn ymuno â hi ychydig i'r de o'r ddinas, a Tewkesbury. Mae'n llifo tua'r de heibio Caerloyw cyn cyrraedd yr aber ym Môr Hafren, lle mae'n gwahanu Cymru a Lloegr.
Mae sawl pont nodedig, yn enwedig pontydd haearn Llandinam ac Iron Bridge, Pont Hafren ac Ail Groesfan Hafren, a thwnnel rheilffordd yn croesi'r afon.