![]() Sgwd yr Eira ar Afon Hepste | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys, Rhondda Cynon Taf ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 705 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7772°N 3.5606°W ![]() |
Aber | Afon Mellte ![]() |
![]() | |
Afon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Powys yw Afon Hepste.
Mae'n tarddu yn y Fforest Fawr, yn yr ardal rhwng Ystradfellte a'r briffordd A4059. lle mae nentydd Afon y Waun, Nant y Cwrier a Nant Hepste Fechan yn ymuno i ffurfio afon Hepste ger ffermdy Hepste Fechan. Llifa tua'r de-orllewin, dros ardal o galchfaen Garbonifferaidd; mae rhan helaeth o'i dŵr yn llifo dan y ddaear mewn mannau, ac ar dywydd sych gall y cyfan fod dan y ddaear yn y rhannau hyn. Yn is i lawr, mae'r afon yn ffurfio rhaeadr enwog Sgwd yr Eira, yna'n ymuno ag afon Mellte ger pentref Ystradfellte.