Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Benin, Gini, Mali, Niger, Nigeria |
Uwch y môr | 200 metr |
Cyfesurynnau | 9.0972°N 10.6828°W, 5.3222°N 6.4692°E |
Tarddiad | Gini |
Aber | Gwlff Gini |
Llednentydd | Afon Sokoto, Benue River, Afon Bani, Afon Béli, Gorouol, Afon Sirba, Afon Tapoa, Afon Mékrou, Dallol Bosso, Afon Sankarani, Afon Milo, Afon Tinkisso, Afon Kaduna, Afon Sota, Goroubi, Afon Alibori, Afon Anambra, Afon Oli, In-Ates, Gurara River |
Dalgylch | 2,117,700 cilometr sgwâr |
Hyd | 4,180 cilometr |
Arllwysiad | 8,630 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Kainji Lake |
Afon Niger (Ffrangeg: (le) fleuve Niger) yw prif afon Gorllewin Affrica, ac mae'n ymestyn tua 4,180 cilometr (2,600 mi). Arwynebedd ei basn draenio yw 2,117,700 km sg (817,600 mi sg).[1] Mae ei ffynhonnell yn Ucheldir Gini yn ne-ddwyrain Guinea ger ffin Sierra Leone[2] a llifa ar siap cilgant trwy Mali, Niger, ar y ffin â Benin ac yna trwy Nigeria, gan arllwys i'r môr trwy ddelta enfawr o'r enw Delta Niger[3] (neu'r Afonydd Olew), ac i mewn i Gwlff Guinea yng Nghefnfor yr Iwerydd. Y Niger yw'r drydedd afon hiraf yn Affrica; dim ond afonydd y Nîl a'r Congo unig sy' rhagori arni. Ei phrif lednant yw Afon Benue.