![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1,400 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 28.89661°S 29.01794°E, 28.6308°S 16.45°E ![]() |
Tarddiad | Drakensberg ![]() |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Llednentydd | Afon Malibamat'so, Afon Senqunyane, Makhaleng River, Afon Caledon, Afon Vaal, Afon Fish, Afon Molopo, Gamkabrivier, Afon Kraai, Tele ![]() |
Dalgylch | 973,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 2,200 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 800 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd | Vanderkloof Dam Reservoir ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | safle Ramsar ![]() |
Manylion | |
Afon yn Ne Affrica yw Afon Oren (Afrikaans: Oranjerivier, Saesneg: Orange River), weithiau hefyd afon Gariep. Hi yw afon hwyaf De Affrica, 1,860 km o hyd.
Ceir tarddle'r afon ym mynyddoedd y Drakensberg, ar y ffn rhwng De Affrica a Lesotho. Llifa tua'r gorllewin, gan ffurfio'r ffin rhwng De Affrica a Namibia cyn cyrraedd Cefnfor Iwerydd. Y fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn iddi yw afon Vaal.
Defnyddir dŵr yr afon i ddyfrhau cnydau, ac mae argae y Gariepdam (gynt yr Hendrik Verwoerddam) a'r Vanderkloofdam yn casglu dŵr yn y tymor glawog i'w ddefnyddio i ddyfrhau yn y tymor sych.