![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sussex ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 50.7842°N 0.058°E ![]() |
Aber | Môr Udd ![]() |
Llednentydd | Afon Uck ![]() |
Dalgylch | 1,008 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 46 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 10 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Afon yn siroedd Gorllewin Sussex a Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Ouse. Mae'n tarddu ger Lower Beeding yng Ngorllewin Sussex, ac yn llifo tua'r dwyrain heibio Haywards Heath a thrwy Lewes cyn iddi gyrraedd y môr yn Newhaven. Mae Afon Uck, ei phrif isafon, yn ymuno â hi tua 8 km (5 mi) i'r gogledd o Lewes.
Am ganrifoedd byddai cychod yn llywio rhannau llanwol yr afon hyd at Lewes, 7 milltir o'r môr. Ar ddiwedd y 18g gwelodd nifer o dirfeddianwyr lleol gyfle i fuddsoddi mewn addasu'r afon i gario cychod camlas i'w rhannau uchaf. Gwnaeth y peiriannydd sifil William Jessop arolwg o'r afon, ac ar ôl cynnydd araf erbyn 1812 roedd yr afon yn fordwyol cyn belled â Balcombe, 22 milltir y tu hwnt i Lewes. Fodd bynnag, ni fu'r cynllun erioed yn llwyddiant mawr, a dyfodiad y rheilffordd oedd yr ergyd olaf. Erbyn 1868 daeth yr holl fasnach uwchben Lewes i ben, er bod cychod yn dal i ddod i fyny'r afon cyn belled â Lewes mor ddiweddar â'r 1950au.[1]