Enghraifft o: | university network, sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 13 Medi 1961 |
Prif bwnc | Francophonie |
Aelod o'r canlynol | European University Association, Renater, International Association of Universities |
Pencadlys | Montréal |
Rhanbarth | Montréal |
Gwefan | https://www.auf.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae L'Agence universitaire de la Francophonie, AUF, Asiantaeth Prifysgolion Gwledydd Ffrangeg eu Hiaith) yn rhwydwaith byd-eang o sefydliadau addysg uwch a sefydliadau gwyddonol sy'n addysgu mewn Ffrangeg. Cafodd ei sefydlu ym Montreal, Quebec, Canada, ym 1961 dan yr enw AUPELF.[1] Mae'r Asiantaeth yn sefydliad amlochrog sy'n cefnogi cydweithrediad ac undod rhwng prifysgolion a sefydliadau Ffrangeg eu hiaith. Mae'n gweithio mewn gwledydd Ffrangeg eu hiaith (a gwledydd eraill) yn Affrica, y byd Arabaidd, De-ddwyrain Asia, Gogledd a De America a'r Caribî, Canolbarth Ewrop, Dwyrain a Gorllewin Ewrop.