![]() | |
Enghraifft o: | Asiantaeth newyddion ![]() |
---|---|
Label brodorol | Agence France-Presse ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 22 Hydref 1835, 20 Awst 1944 ![]() |
Sylfaenydd | Charles-Louis Havas ![]() |
Isgwmni/au | Sport-Informations-Dienst, Agence France Presse ![]() |
Cynnyrch | Asiantaeth newyddion ![]() |
Pencadlys | Paris ![]() |
Enw brodorol | Agence France-Presse ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://www.afp.com ![]() |
![]() |
Asiantaeth newyddion a sefydlwyd yn Ffrainc ym 1835 yw Agence France-Presse (AFP). Dyma'r asiantaeth newyddion hynaf yn y byd ac un o'r tair mwyaf, gydag Associated Press (AP) a Reuters. AFP yw'r asiantaeth newyddion fwyaf yn yr iaith Ffrangeg hefyd.
Lleolir pencadlys AFP ym Mharis, gyda chanolfannau rhanbarthol yn Washington D.C., Hong Cong, Nicosia, São Paulo a Montevideo a swyddfeydd lleol mewn dros 110 o wledydd. Mae'n cyhoeddi newyddion mewn chwech o ieithoedd, sef Ffrangeg, Arabeg, Saesneg, Sbaeneg, Portiwgaleg ac Almaeneg.