![]() | |
Enghraifft o: | genre gwyddonias, cyberpunk derivative form, literary subgenre ![]() |
---|---|
Math | retrofuturism, ffantasi gwyddonol, ffuglen ![]() |
Genre | Clockwork Planet ![]() |
![]() |
Is-genre ffantasïol o fewn gwyddonias yw agerstalwm, lle mae technoleg a dyfeisiadau esthetig wedi'u hysbrydoli gan beiriannau stêm diwydiannol o'r 19g.
Er bod tarddiad llenyddol y math yma o lenyddiaeth weithiau'n gysylltiedig â'r genre cyberpunk, mae gweithiau agerstalwm yn aml yn cael eu gosod mewn hanes amgen yng nghyfnod oes Fictoria, yn benodol - yng "Ngorllewin Gwyllt Americanaidd" y dyfodol, lle gosodir pŵer stêm fel norm, yn brif ffrwd. Ar adegau eraill, fe'i lleolir mewn byd ffantasi sy'n defnyddio ynni stêm. Fodd bynnag, mae steampunk a neo-Fictoraidd yn wahanol gan nad yw'r mudiad neo-Fictoraidd yn allosod ar dechnoleg tra bod technoleg yn agwedd allweddol ar steampunk gan nad yw technoleg yn gwbwl angenrheidiol o fewn yr arddull neo-Fictoraidd.[1][2][3][4]
Efallai mai'r nodwedd amlycaf o'r genre yma yw technoleg a dyfeisiadau anacronistaidd (nad oedd ar gael yn y cyfnod dan sylw) a gellir galw'r rhain yn retro-ddyfodol: dyfeisiadau a thechnoleg y gallai pobl yn y 19g fod wedi breuddwydio amdanynt. Gall y mathau o beiriannau, technoleg a dyfeisiadau gynnwys rhai o fyd ffuglen, fel y rhai a ddisgrifir yng ngwaith H. G. Wells a Jules Verne, neu'r awduron modern: Philip Pullman, Scott Westerfeld, Stephen Hunt, a China Miéville.