Ail Ryfel Cartref Lloegr

Ail Ryfel Cartref Lloegr
Enghraifft o:rhyfel Edit this on Wikidata
DyddiadChwefror 1648 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Cartref Lloegr Edit this on Wikidata
LleoliadLloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Castell Penfro

Ymladdwyd Ail Ryfel Cartref Lloegr yn 1648 a 1649, rhwng plaid y Brenin Siarl I a phlaid y Senedd. Roedd yn rhan o gyfres o dri rhyfel o fewn Rhyfel Cartref Lloegr, yntau yn rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas, yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon (1642–9).

Dechreuodd y rhyfel yma yng Nghymru yng ngwanwyn 1648, pan newidiodd milwyr y Senedd, oedd heb gael eu talu, eu teyrngarwch. Dan arweiniad y Cyrnol John Poyer, llywodraethwr Castell Penfro, ynghyd a'i bennaeth, y Cadlywydd Rowland Laugharne a Cyrnol Rice Powel, datganasant eu cefnogaeth i'r brenin.

Gorchfygwyd hwy gan y Cyrnol Thomas Horton ym Mrwydr San Ffagan (8 Mai), ac ildiodd yr arweinwyr i Oliver Cromwell ar 11 Gorffennaf ar ôl gwarchae Penfro. Dienyddiwyd Siarl I ar 30 Ionawr 1649.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne