Ail Ryfel y Boer

Ail Ryfel y Boer
Enghraifft o:rhyfel Edit this on Wikidata
Rhan omilitary history of South Africa Edit this on Wikidata
Dechreuwyd11 Hydref 1899 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Daeth i ben31 Mai 1902 Edit this on Wikidata
LleoliadDe Affrica Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ail Ryfel y Boer

Ymladdwyd Ail Ryfel y Boer (Saesneg: Second Boer War, Afrikaans: Boereoorlog neu Tweede Vryheidsoorlog) rhwng 11 Hydref 1899 a 31 Mai 1902 yn Ne Affrica, rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a gweriniaethau y Boeriaid, Y Weriniaeth Rydd Oren a Gweriniaeth y Transvaal, gweriniaethau oedd wedi eu sefydlu gan y Voortrekkers. Mae cyfeiriad ar Ryfel y Boer neu Ryfel De Affrica fel rheol yn cyfeirio ar y rhyfel hwn.

Yn 1885, cafwyd hyd i aur yn y Witwatersrand yn y Transvaal. O ganlyniad, symudodd nifer fawr o dramorwyr (uitlanders) i mewn i'r Transvaal, y rhan fwyaf ohonynt yn Brydeinwyr. Gwaethygodd y berthynas rhwng y rhain a llywodraeth y Transvaal, ac yn 1896 gyrrodd Cecil Rhodes garfan answyddogol o filwyr ar ymgyrch i'r Transvaal, y Jameson Raid. Y gobaith oedd y byddai'r mewnfudwyr Prydeinig o gwmpas Johannesburg yn eu cynorthwyo i gipio grym, ond methiant fu'r ymgyrch.

Gwaethygodd y berthynas rhwng y ddwy ochr, ac ar 8 Medi 1899 gyrrodd y Prydeinwyr 10,000 o filwyr i Natal, ac ar 22 Medi 47,000 arall. Mynnodd y Volksraad, senedd y weriniaeth, fod y milwyr hyn yn cael eu tynnu'n ôl o'r ffin, a phan wrthododd yr ymerodraeth, dechreuodd y rhyfel ar 12 Hydref.

Oherwydd y gwahaniaeth mawr yn adnoddau'r ddwy ochr, a'r ffaith mai ffermwyr yn hytrach na milwyr proffesiynol oedd y rhan fwyaf o ymladdwyr y Boeriaid, disgwyliai'r Prydeinwyr y byddai'r rhyfel drosodd mewn ychydig fisoedd, ond enillodd y Boeriaid nifer o fuddugoliaethau. Mewn un wythnos, enillasant frwydrau yn Stormberg (10 Rhagfyr), Magersfontein (11 Rhagfyr) a Colenso y Natal (15 Rhagfyr).

Ar 14 Chwefror 1900, cyrhaeddodd nifer fawr o filwyr Prydeinig ychwanegol dan yr Arglwydd Roberts. Cipiodd ef Bloemfontein ar 13 Mawrth a Pretoria ar 5 Mehefin. Er hyn, parhaodd y Boeriaid i ymladd rhyfel gerila am ddwy flynedd arall, dan Christiaan de Wet, Jan Smuts, Louis Botha ac eraill. Ymatebodd y Prydeinwyr dan yr Arglwydd Kitchener trwy losgi ffermydd i atal yr ymladdwyr Boeraidd rhag cael bwyd, a symud y gwragedd a'r plant i wersylloedd. Ystyrir y rhain fel y gwersylloedd cadw cyntaf.

Daeth y rhyfel i ben pan arwyddwyd Cytundeb Vereeniging ym mis Mai 1902. Bu farw tua 22,000 o filwyr Prydeinig yn y brwydro ac o afiechydon. Lladdwyd tua 7,000 o'r ymladdwyr Boeraidd, ond bu farw tua 28,000 o'r gwragedd a'u plant yn y gwersylloedd cadw. Bu farw tua 14,000 o'r boblogaeth frodorol. Ymgorfforwyd y gweriniaethau Boeraidd yn yr Ymerodraeth Brydeinig, ac yn ddiweddarach daethant yn rhan o Dde Affrica.

Roedd cydymdeimlad y byd yn gyffredinol gyda'r Boeriaid, ac ymladdodd carfanau o wirfoddolwyr o sawl gwlad, yn cynnwys Iwerddon, ar eu hochr hwy. Ym Mhrydain, roedd y rhyfel yn boblogaidd iawn gyda'r mwyafrif, ond roedd rhai gwrthwynebwyr. Yr amlycaf o'r rhain oedd David Lloyd George, a ddaeth i amlygrwydd o ganlyniad.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne