Alan Ayckbourn

Alan Ayckbourn
Ganwyd12 Ebrill 1939 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Haileybury Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, llenor, sgriptiwr, cyfarwyddwr theatr, libretydd Edit this on Wikidata
Swyddcymrawd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, CBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Marchog Faglor, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.alanayckbourn.net Edit this on Wikidata

Mae Syr Alan Ayckbourn CBE FRSA (ganwyd 12 Ebrill 1939) yn ddramodydd a chyfarwyddwr Prydeinig toreithiog. Bu'n ysgrifennu a chynhyrchu dramâu ers y 1950au, ac erbyn 2024, roedd y nifer o gynyrchiadau o ddramâu hir a gyflawnodd wedi cyrraedd cyfanswm o 90. Llwyfannwyd y gwaith yn Llundain a Scarborough, lle bu'n gyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph rhwng 1972 a 2009. Ers hynny, mae dros 40 o'i ddramâu wedi’u cynhyrchu yn y West End, yn y National Theatre neu gan y Royal Shakespeare Company. Ei sioe boblogaidd gyntaf oedd Relatively Speaking a lwyfannwyd yn Theatr y Duke of York ym 1967.

Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys Absurd Person Singular (1975), trioleg The Norman Conquests (1973), Bedroom Farce (1975), Just Between Ourselves (1976), A Chorus of Disapproval (1984), Woman in Mind (1985), A Small Family Business (1987), Man of the Moment (1988), House & Garden (1999) a Private Fears in Public Places (2004). Mae ei ddramâu wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys saith Gwobr Evening Standard Llundain. Maent wedi eu cyfieithu i dros 35 o ieithoedd [gan gynnwys y Gymraeg] ac yn cael eu perfformio ar lwyfan a theledu ledled y byd. Mae deg o'i ddramâu wedi'u llwyfannu ar Broadway, gan ennill un Gwobr Tony a dau enwebiad.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne