Alan Dale | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mai 1947 Dunedin |
Man preswyl | Manhattan Beach |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Arddull | drama ffuglen, cyffro |
Taldra | 1.88 metr |
Actor o Seland Newydd yw Alan Hugh Dale (ganwyd 6 Mai 1947). Pan yn blentyn datblygodd hoffter Dale o'r theatr a daeth yn chwaraewr rygbi hefyd. Wedi iddo ymddeol o'r chwaraeon gwnaeth nifer o swyddi er mwyn cynnal ei deulu, cyn penderfynu dod yn actor proffesiynol pan yn 27 oed. Gyda gwaith yn brin yn Seland Newydd, symudodd Dale i Awstralia lle cafodd rhan Dr. John Forrest yn The Young Doctors. Yn ddiweddarach, ymddangosodd yn yr opera sebon Neighbours yn chwarae rhan Jim Robinson, rôl a chwaraeodd am wyth mlynedd. Cysylltir Dale â rôl Jim Robinson yn bennaf, er iddo gael anghydfod gyda chynhyrchwyr y rhaglen ynglŷn â'r tâl a roddwyd iddo ef a gweddill y cast. O 2006 i 2007 chwaraeodd e'r rôl Bradford Meade yn y ddrama Americanaidd Ugly Betty.