Alan Davidson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 30 Mawrth 1924 ![]() Derry ![]() |
Bu farw | 2 Rhagfyr 2003 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diplomydd, llenor, hanesydd ![]() |
Swydd | llysgennad y Deyrnas Unedig i Laos ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Erasmus ![]() |
Hanesydd bwyd a diplomydd o Brydain oedd Alan Eaton Davidson CMG (30 Mawrth 1924 – 2 Rhagfyr 2003). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y golygydd y gyfrol wyddoniadurol The Oxford Companion to Food (1999).
Ganwyd ym 1924 yn Derry, Gogledd Iwerddon. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog y Llynges Frenhinol. Wedyn, tra'n gweithio fel diplomydd yn y Swyddfa Dramor, treuliodd amser mewn llysgenadaethau o gwmpas y byd (Den Haag, Cairo, Tiwnis, Brwsel a Vientiane) a dechreuodd ymddiddori yn y bwydydd o wahanol ddiwylliannau; felly cychwynodd ar yrfa o ysgrifennu am hanes bwyd.
Enillodd Wobr Erasmus yn 2003.[1]