Alban | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 g ![]() Verulamium ![]() |
Bu farw | 305 ![]() Verulamium ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | person milwrol ![]() |
Dydd gŵyl | 22 Mehefin ![]() |
Merthyr Cristionogol cynharaf Prydain Rufeinig oedd Sant Alban. Gyda Julius ac Aaron, mae'n un o dri merthyr o'r cyfnod yma.
Merthyrwyd ef yn Verulamium, yn awr St Albans, yn ne Lloegr. Mae ansicrwydd am y dyddiad; gallai fod yn ystod yr erlid dan yr ymerawdwr Diocletian tua 303 neu tua 251 - 259 dan Decius neu Valerianus. Awgrymodd John Morris y gallai fod wedi ei ferthyru yn ystod yr erlid dan yr ymerawdwr Septimius Severus yn 209.
Ceir cyfeiriad ato gan Gildas yn ei De Excidio Britanniae: