Albert Ayler | |
---|---|
Ganwyd | 13 Gorffennaf 1936 Cleveland |
Bu farw | 25 Tachwedd 1970, 5 Tachwedd 1970 o boddi Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | ESP-Disk |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr sacsoffon, cyfansoddwr, cerddor jazz, artist recordio |
Arddull | jazz |
Sacsoffonydd, canwr a chyfansoddwr jazz avant-garde o'r Unol Daleithiau oedd Albert Ayler (13 Gorffennaf 1936 – 25 Tachwedd 1970).[1]
Ar ôl profiad cynnar yn chwarae R&B a Bebop, dechreuodd Ayler recordio cerddoriaeth yn ystod cyfnod Jazz Rhydd y 1960au. Mae'n anodd categoreiddio arddull Ayler mewn unrhyw ffordd, ac fe wnaeth ennyn ymatebion anhygoel o gryf a gwahanol gan feirniaid a chefnogwyr fel ei gilydd. Mae ei arloesiadau wedi ysbrydoli cerddorion Jazz hyd heddiw. Mae rhai beirniaid yn dadlau, er bod chwarae Ayler yn gwbl wreiddiol ac anarferol doedd ei steil ddim hyd yn oed yn dilyn arddull Jazz Rhydd.[2]
Mae ei recordiau triawd a phedwarawd ym 1964, fel Spiritual Unity a The Hilversum Session, yn dangos iddo ddatblygu syniadau improf enwau mawrion Jazz Rhydd John Coltrane ac Ornette Coleman i faesydd haniaethol. Mae ei gerddoriaeth ecstatig o 1965 a 1966, fel Spirits Rejoice a Truth Is Marching In, wedi'i chymharu gan feirniaid â sain band pres gorymdeithio cyfnod jazz cynnar, gan gynnwys themâu syml ond gydag improf gwyllt ac yn cael eu hystyried yn adfer gwreiddiau cyn dyddiau cynnar Jazz cyn iddo iddo gael ei boblogeiddio gan enwau mawr fel Louis Armstrong yn 1930au. [3]
Doedd Ayler byth am fodloni’r cyhoedd neu dyfu cynulleidfa gyson. Er gwaethaf derbyniad beirniadol positif, arhosodd yn dlawd trwy gydol ei oes ac yn aml roedd yn ceisio cefnogaeth ariannol gan ei deulu a'i gyd-gerddorion, gan gynnwys Coltrane. Perfformiodd yn angladd Coltrane yn 1967.
Tua diwedd ei fywyd roedd Ayler yn mynd yn ansefydlog yn emosiynol, gan feio ei hun am broblemau iselder ei frawd. Ym 1969, cyflwynodd lythyr agored angerddol, dryslyd i'r cylchgrawn Criced o'r enw "To Mr. Jones - I Had a Vision ," lle disgrifiodd weledigaethau ysbrydol apocalyptaidd syfrdanol. Erfyniodd ar y darllenwyr i rannu neges ei datguddiadau, gan fynnu "Mae hyn yn bwysig iawn. Mae'r amser wedi dod". Cofiodd Noah Howard weld Ayler yr haf hwnnw, yn gwisgo menig a chôt ffwr hyd llawn er gwaethaf y gwres, ei wyneb wedi'i orchuddio yn Vaseline, a dweud "Rhaid imi amddiffyn fy hun."
Diflannodd Ayler ar 5 Tachwedd 1970, a darganfuwyd yn farw yn Afon West River Dinas Efrog Newydd ar 25 Tachwedd 1970, hunanladdiad tybiedig. Am beth amser wedyn, roedd sibrydion yn cylchredeg bod Ayler wedi cael ei lofruddio, gyda chwedl ar led bod y Maffia wedi ei glymu i jukebox.[4]
Yn 2005 ymddangosodd y ffilm ddogfen My Name Is Albert Ayler sy’n cynnwys cyfweliadau a pherfformiadau byw.