Albert Camus | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1913 Dréan |
Bu farw | 4 Ionawr 1960 o single-vehicle accident Villeblevin |
Man preswyl | Ffrainc |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | licence, DES |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, athronydd, nofelydd, newyddiadurwr, awdur ysgrifau, dramodydd, sgriptiwr, gwrthsafwr Ffrengig, bardd, pêl-droediwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | L'homme révolté, A Happy Death, The Fall, The Myth of Sisyphus, L'Étranger, La Peste, Albert Camus, María Casares. Correspondence (1944-1959), Caligula (drama), Neither Victims Nor Executioners |
Prif ddylanwad | Søren Kierkegaard, André Malraux, Plotinus, Friedrich Nietzsche, Franz Kafka, Jean Grenier, André Gide, Fyodor Dostoievski, Lev Shestov, Martin Heidegger, Karl Jaspers, Simone de Beauvoir, Jean-Paul Sartre |
Mudiad | continental philosophy |
Priod | Simone Hié, Francine Faure |
Partner | Blanche Balain, María Casares, Mamaine Koestler, María Casares, Catherine Sellers, Mette Ivers |
Plant | Catherine Camus, Jean Camus |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Médaille de la Résistance |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Delwedd:Albert Camus signature.svg, Albert Camus signature acte mariage.svg |
Llenor yn yr iaith Ffrangeg ac athronydd oedd Albert Camus (7 Tachwedd 1913 - 4 Ionawr 1960), a anwyd yn Mondovi (heddiw: Dréan) yn Algeria. Ystyrir Camus ymhlith awduron mwyaf blaenllaw a dylanwadol y 20g.
Fel Jean-Paul Sartre a Simone de Beauvoir, arddelai Camus athroniaeth dirfodaeth (Existentialism). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1957.
Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth.